Âé¶¹ÊÓÆµ

Wales webpage banner

Grymuso Cymru gyda Sgiliau

Grymuso Cymru gyda Sgiliau

Mae popeth rydyn ni’n gwneud yn cefnogi pobl i gael swydd, eu helpu i ddatblygu yn y swydd a symud ymlaen at y swydd nesaf.

View this page in English

Rydyn ni’n gweithio gydag amryw o randdeiliaid yng Nghymru gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru, Colegau Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, NTfW a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i enwi ond rhai.


Cymwysterau contract

Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda Chymwysterau Cymru i ddatblygu cymwysterau contract ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (IGCGP) ac Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (APhGA).

Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Mae City & Guilds a’r Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) wedi cydweithio, a ni yw’r unig ddarparwyr ar gyfer cyfres o gymwysterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant contractiwyd gan Gymwysterau Cymru, i ddarparu cymwysterau o Lefel 1 hyd Lefel 5 ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.

Cymwysterau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Mae City & Guilds wedi cydweithio gyda EAL i ddatblygu cyfres Newydd o gymwysterau a phrentisiaethau Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu sydd ar gael ar Lefel 2 a 3.


Ariannu cymwysterau

Rydym yn cynnig ystod eang o gymwysterau wedi eu rhestru ar  sydd wedi ei berchen a’i reoli gan Gymwysterau Cymru (CC).

Mae’r cymwysterau a restrwyd ar QiW yn gymeradwy neu yn ddynodedig gan CC ac yn gymwys ar gyfer cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru neu’r awdurdod lleol yng Nghymru.

I sicrhau bod y cymwysterau yn gallu cael eu hariannu mae rhaid iddynt fod ar QiW.

Angen ychwanegu cymhwyster neu eu hestyn ar QiW?


Sgiliau Hanfodol Cymru

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yng Nghymru yn cynnwys pedwar cymhwyster Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Chyflogadwyedd.

Darganfod mwy


Prentisiaethau

Mae fframwaith Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW) yn amlinellu’r gofynion ar gyfer prentisiaeth yng Nghymru.

Mae ein cynnig yn cynnwys ystod o sectorau ac yn cefnogi dysgwyr a darparwyr gyda chymwysterau sy’n addas ar gyfer Cymru ac yn gydnabyddedig ar draws y DU. 

Mae fframweithiau SASW yn amrywio yn dibynnu ar y diwydiant a’r lefel ac mae’r manylion yn y fframwaith unigol, ewch at ein tudalen prentisiaethau am ragor o wybodaeth.


Cefnogaeth ar gyfer y Gymraeg

Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd cefnogi’r Gymraeg mewn pob agwedd o fywyd, ac rydym yn ymrwymedig i barhau i ffynnu wrth weithio yng Nghymru.

Catalog o Adnoddau ein Cymwysterau yn y Gymraeg

Catalog o Adnoddau ein Cymwysterau yn y Gymraeg

Mae detholiad o ddeunyddiau asesu a dogfennau arall sy’n gysylltiedig â chymwysterau sydd ar gael yn y Gymraeg wedi eu rhestri yn ein catalog.

Darganfod mwy

Cynnig Cymraeg a Pholisi’r Gymraeg

Cynnig Cymraeg a Pholisi’r Gymraeg

Mae’r Cynnig Cymraeg wedi ei gadarnhau gan Gomisiynydd y Gymraeg ar gyfer ein hymrwymiad i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae Polisi’r Gymraeg isod.

Cynnig Cymraeg (English)

Welsh language policy (English and Welsh)

Cais am Ddeunyddiau ein Cymwysterau yn y Gymraeg

Angen deunyddiau ar gyfer ein cymwysterau yn y Gymraeg? Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein.

Newyddion

Mae cynnwys newydd ar y ffordd.